GWYL STRYDOEDD CANU WRECSAM I DYCHWELYD YM MIS MEDI!
Bydd corau yn meddiannu strydoedd canol y dref ar 30 Medi...
Bydd ail feddiant cerddorol blynyddol Wrecsam yn gweld corau o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn perfformio i filoedd o ymwelwyr yng nghanol y dref.
Mae Strydoedd Canu Wrecsam yn dychwelyd yn dilyn digwyddiad agoriadol llwyddiannus y llynedd, a oedd yn cynnwys hyd at 30 o gorau mewn saith lleoliad ddydd Sadwrn 30 Medi.
Bydd Only Boys Aloud sydd wedi cyrraedd rownd derfynol yr Eisteddfod Genedlaethol a Britain’s Got Talent yn ymddangos am y tro cyntaf, ynghyd â Stiwdio Opera Gogledd Cymru.
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys canu torfol yn Sgwâr y Frenhines a pherfformiadau gan ddau gôr arwyddo, sy'n perfformio yn Iaith Arwyddion Prydain i'r byddar.
Mae côr Tenovus - sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser - hefyd yn camu i'r llwyfan yn y digwyddiad, sy'n cael ei drefnu gan AS Wrecsam Ian Lucas.
Meddai: “Rydym wrth ein bodd y bydd Strydoedd Canu Wrecsam yn digwydd eto eleni. Mae’n ffordd wych o ddathlu traddodiad canu’r dref.
“Mae rhywbeth unigryw am allu cerddoriaeth fyw ac adloniant stryd i ddod â phobl at ei gilydd a bydd rhaglen eleni hyd yn oed yn fwy amrywiol.
“Mae gennym ni gorau o Wrecsam a’r rhanbarth ehangach sydd eisoes wedi’u cadarnhau i chwarae ac mae’n siŵr y byddan nhw’n dod â byddin o gefnogwyr gyda nhw a fydd yn ychwanegu at yr achlysur.
“Fe wnaeth corau a chynulleidfaoedd fwynhau cymysgu gyda’i gilydd a rhannu eu cerddoriaeth y llynedd a gall pawb yn Wrecsam fwynhau eu cerddoriaeth – a llawer mwy – eto yn 2017, i gyd am ddim.”
Ychwanegodd Mr Lucas: “Diolch yn fawr iawn i’r busnesau hynny y mae eu cefnogaeth yn helpu i gynnal y digwyddiad.
“Mae cefnogaeth Dôl yr Eryrod gyda chyllid ac fel lleoliad ar gyfer corau, a chefnogaeth ariannol cwmnïau fel Costa Coffee a Wockhardt, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”
Tyfodd Strydoedd Canu Wrecsam allan o wyliau stryd poblogaidd Fforwm Canol Tref Wrecsam ac ehangwyd nifer y lleoliadau i saith i adlewyrchu ei boblogrwydd.
Y lleoliadau a gadarnhawyd yw: Amgueddfa Wrecsam, Stryt yr Arglwydd (Gorsaf Fysiau Wrecsam), Sgwâr y Frenhines, Stryt yr Hôb, Stryt yr Eglwys, Stryt Caer a Dôl yr Eryrod.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymwneud â’r ŵyl am y tro cyntaf eleni a chynhaliodd y lansiad yn ei Chanolfan Diwydiannau Creadigol heddiw (Dydd Llun), yn cynnwys perfformiad gan blant o Ysgol Bodhyfryd.
Dywedodd yr Is-ganghellor yr Athro Maria Hinfelaar: “Mae Strydoedd Canu Wrecsam yn prysur sefydlu ei hun fel rhan bwysig o galendr digwyddiadau blynyddol y dref ac fel prifysgol gymunedol rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan.
“Mae gan y brifysgol gysylltiad hir a balch gyda cherddoriaeth yn Wrecsam ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r dref ym mis Medi.”
Y rhestr lawn o gorau sydd wedi’u cadarnhau yw: Bebbington Bitter Men, Bitesize Children, Bitesize Adults, Ysgol Parc Borras,Côr Merched Caer, Cantorion Rhos, Cor Clwyd, Côr Cymunedol Creadigol, Côr Dee-Sign, Côr Hapus, Côr Cymunedol Pentref Holt, Llangollen Côr Ieuenctid, Cantorion James Lambert, Côr Cymunedol Kaboodle, Only Boys Aloud, Mountain Harmony, Stiwdio Opera Gogledd-ddwyrain Cymru, Cantorion Byddin yr Iachawdwriaeth, Cantorion St Margaret, Wrecsam yn Canu Dwylo, Sing Out Your Song, Sing With Us Wrecsam (Tenovus Cancer Care) , Sirenians, Ysgol Victoria, Côr Sir Wrecsam, Ysgol Bodhyfryd a Chôr Cymunedol Wrecsam.
Bydd y rhestr lawn a diweddariadau digwyddiadau yn cael eu postio yn http://singingstreets.org
Noddir Strydoedd Canu Wrecsam gan Ddôl yr Eryrod, Wockhardt a Costa Coffee, a darperir systemau sain gan John Jones Quality Acoustics.